Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

19 Tachwedd 2018

SL(5)271 – Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018

Y weithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o bum rheoliad a wneir o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ('y Ddeddf'). Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu cyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru (cyllideb garbon) am y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf, 2016-2020 a 2021-2025.

Mae Adran 31 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod y cyllidebau carbon am y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf (2016-20 a 2021-25) cyn diwedd 2018.

Rhiant-ddeddf: Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar:

Fe'u gosodwyd ar: 06 Tachwedd 2018

Yn dod i rym ar:

SL(5)272 – Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018

Y weithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o bum rheoliad a wneir o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ('y Ddeddf'). Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer targedau allyriadau interim yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf ar gyfer y blynyddoedd 2020, 2030 a 2040.

Mae Adran 30(4) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau allyriadau interim cyn diwedd 2018.

Rhiant-ddeddf: Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar:

Fe'u gosodwyd ar: 06 Tachwedd 2018

Yn dod i rym ar:

SL(5)273 – Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018

Y weithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o bum rheoliad a wneir o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ('y Ddeddf'). Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu fformiwla ar gyfer canfod pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol sydd i’w hystyried yn allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o'r Ddeddf.

Rhiant-ddeddf: Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar:

Fe'u gosodwyd ar: 06 Tachwedd 2018

Yn dod i rym ar:

SL(5)274 – Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018

Y weithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o bum rheoliad a wneir o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ('y Ddeddf'). Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol ag adran 33(4) o'r Ddeddf.